The enduring front elevation of Esgair Llywelyn, photographed on a hot June day 2020 just before shearing

Yma o Hyd – Dathlu 500 Mlynedd o Dŷ Cymreig Arbennig Iawn ar Ddydd Gŵyl Dewi

Yn ein blog Dydd Gŵyl Dewi rydym yn dathlu hanes tŷ arbennig iawn sydd wedi goroesi er gwaethaf popeth am ryw 500 mlynedd. Ffermdy anghysbell yn yr uwchdiroedd yw Esgair Llywelyn, Llanwrin, Sir Drefaldwyn, sydd wedi mynd yn llai hygyrch yn hytrach na mwy hygyrch yn ystod yr 20fed ganrif. I gyrraedd Esgair Llywelyn mae angen teithio drwy goedwig enfawr Dyfi (a blannwyd ym 1926). Os ewch ar goll yn y goedwig gall gymryd amser maith i gael hyd i’ch ffordd allan yn ôl y sôn!

Er bod Esgair Llywelyn yn wag ers 1909, mae wedi cael ei gynnal ar gyfer trin defaid ers dod i feddiant fferm gyfagos ychydig yn is i lawr. Heddiw, yn ogystal â bod yn ddefnyddiol o hyd, mae’n cael ei werthfawrogi fwyfwy oherwydd ei hanes maith ac yn cael ei gadw i’r cenedlaethau a ddaw gan ei berchennog, Mr Edryd Davies.

Enw hyfryd yw Esgair Llywelyn er na allwn fod yn sicr pa Lywelyn a roddodd ei enw i’r ardal. Gellir olrhain yr enw ei hun yn ôl i 1647 (‘Tythyn Eskyr Lewelyn’) ond mae pensaernïaeth y tŷ yn llawer hŷn. Gwelir yma gynllun a manylion pensaernïol tŷ neuadd o’r Oesoedd Canol diweddar a addaswyd drwy osod lleoedd tân. Mae’n amlwg bod y tŷ yn dŷ neuadd â ffrâm nenfforch yn wreiddiol. Mae sawl pâr o gyplau siâp bwa yn dangos lleoliad neuadd ac ystafell fewnol ffermdy nodweddiadol o’r cyfnod. Roedd y neuadd yn agored at y to, ac roedd tân ar lawr y neuadd sydd wedi troi’r cyplau’n ddu. Mae manylion y cyplau’n awgrymu bod gan y tŷ furiau coed yn wreiddiol, yr un fath â chymaint o dai eraill ym Mhowys y mae ganddynt furiau cerrig erbyn heddiw. Pa bryd y cafodd ei godi? Dim ond drwy ddyddio blwyddgylchau y gallwn fod yn sicr, ond gallwn ddweud fod tai ffrâm nenfforch tebyg wedi cael eu dyddio’n wyddonol a bod dyddiadau adeiladu’r rhain yn amrywio o 1500 hyd 1550.

Beth oedd hanes y ffermdy wedyn? Er i nifer o addasiadau gael eu gwneud i’r adeilad fe gadwyd ei gynllun gwreiddiol, a’r neuadd/cegin yw calon y tŷ o hyd. Tua 1575 fe gafodd ei foderneiddio: adeiladwyd lle tân mawr yng nghyntedd y tŷ canoloesol a chodwyd muriau cerrig yn lle’r rhai coed, a hynny ar wahanol adegau o bosibl. Gosodwyd y simnai yn y cyntedd (y patrwm arferol) rhwng y neuadd a’r ystafell allanol, gan gadw’r neuadd a chreu mynedfa-gyntedd (y cynllun sy’n nodweddiadol o’r ardal). Wrth fynd drwy’r drws i mewn i’r tŷ fe ddewch wyneb yn wyneb ag ochr wedi’i phlastro’r simnai y mae llawer o ymwelwyr a chneifwyr yr 20fed ganrif wedi crafu eu henwau arni.

Ymddengys fod nenfwd presennol y neuadd/cegin yn perthyn i oes Fictoria ac mae’n bosibl bod y neuadd yn agored at y to tan hynny. Ond fe roddwyd nenfwd cywrain i ‘gilfach allanol’ y tŷ (ar yr ochr arall i’r cyntedd): mae gan y trawstiau siamfferi amlwg a stopiau pyramidaidd neu stopiau broes ffasiynol. Cafodd parlwr newydd ei greu yn hen gilfach allanol y tŷ neuadd, gyda llofftydd da uwchben.

Yn ystod trydydd cyfnod adeiladu, oddeutu 1650 mae’n debyg (ar sail proffil pigfain y ‘kneeler’ yn y talcen newydd), adeiladwyd lle tân newydd yn y talcen i ddarparu gwres i’r parlwr. Yn ddiddorol iawn, cafodd mynedfa ar wahân ei hadeiladu yn y mur gorllewinol ochr yn ochr â drws y fynedfa-gyntedd. Mae’r fynedfa ar wahân yn awgrymu bod y parlwr a’r ystafell wasanaeth wrth ei ymyl wedi dod yn uned ar wahân. Mae’n debygol bod teulu estynedig yn Esgair Llywelyn a bod y genhedlaeth hŷn wedi ymgilio i’r parlwr.

Cafodd y ffermdy ei foderneiddio yn y 19eg ganrif ac mae digon o dystiolaeth o hyn i’w gweld o hyd. Mae haenau o bapur wal ar waliau’r neuadd/cegin. Gosodwyd ffenestri casment yn lle’r hen ffenestri, er bod dwy ffenestr fyliynog gynharach yn goroesi yn y mur gogleddol. Mae manylion gwaith coed Fictoraidd yn cynnwys blwch sbils o’r 19eg ganrif sydd wedi’i hoelio ar siamffer mewnol trawst y lle tân, a silff ben tân. Roedd Esgair Llywelyn yn fferm deuluol brysur gyda nifer o weision. Roedd gwelyau yn y rhan fwyaf o’r ystafelloedd. Drwy ryw ryfedd wyrth, mae’r gwelyau gosod yn llofftydd y llawr cyntaf yn dal yn eu lle, ac mae tystiolaeth bod pedwerydd gwely cwpwrdd yn yr ystafell fewnol.

Erbyn dechrau’r ugeinfed ganrif nid oedd yn bosibl gwneud bywoliaeth o’r fferm, a rhoddwyd y gorau i ddefnyddio’r ffermdy tua 1909. Rhaid bod y tenantiaid yn teimlo tristwch mawr wrth gau’r drysau am y tro olaf a mynd i fyw i rywle arall. Serch hynny, mae tyddyn Esgair Llywelyn yn parhau’n fan pererindota i ddisgynyddion y rhai a arferai fyw yno. Byddant yn dychwelyd o bryd i’w gilydd i weld yr hen le ac i grafu eu henwau yn y plastr ar ochr y lle tân mawr. Un o’r enwau hyn yw Elinor Bennett, y delynores fyd-enwog.

Gan Richard Suggett, Uwch Ymchwilydd


Rhaglen ddogfen gan y BBC

Esgair Llywelyn yw un o’r adeiladau sy’n cael sylw mewn rhaglen ddogfen gan y BBC o’r enw Hidden Wales: Last Chance to Save. Fe’i dangosir heddiw, Dydd Gŵyl Dewi, 1 Mawrth, am 8pm ar BBC1 Cymru ac ar yr un pryd ar BBC Four ar gyfer gweddill y DU. Bydd hefyd ar gael ar iPlayer. Yn y rhaglen hon fe fydd y cyflwynydd, Will Millard, yn ymchwilio i hanes rhai o adeiladau cudd ond hanesyddol Cymru ac yn cyfarfod â’r unigolion brwd sy’n gwneud eu gorau glas i’w hachub a’u cynnal. Bydd Will yn cyfarfod ag Edryd Davies, y perchennog, ar ddiwrnod cneifio ac yn siarad â Richard Suggett o’r Comisiwn Brenhinol, sydd wedi dehongli’r adeilad.

Tu blaen cadarn Esgair Llywelyn; tynnwyd y llun ar ddiwrnod poeth ym mis Mehefin 2020 ychydig cyn cneifio’r defaid
Tu blaen cadarn Esgair Llywelyn; tynnwyd y llun ar ddiwrnod poeth ym mis Mehefin 2020 ychydig cyn cneifio’r defaid.
Gris treuliedig y prif ddrws, a gwrthrych daearegol diddorol (cnepyn) wrth ei ymyl
Gris treuliedig y prif ddrws, a gwrthrych daearegol diddorol (cnepyn) wrth ei ymyl.
Graffiti ymwelwyr ar blastr y cyntedd. Mae’r arysgrif hon a wnaed gan John Henry Griffiths ar 2 Mehefin 2002 yn darllen: ‘Oeddwyn i yn dal defaid yn y fan yma oed 15 yn 1925’
Graffiti ymwelwyr ar blastr y cyntedd. Mae’r arysgrif hon a wnaed gan John Henry Griffiths ar 2 Mehefin 2002 yn darllen: ‘Oeddwyn i yn dal defaid yn y fan yma oed 15 yn 1925’.
Yn edrych i mewn i’r gegin lle mae mainc a bwrdd y cneifwyr
Yn edrych i mewn i’r gegin lle mae mainc a bwrdd y cneifwyr.
Y ‘stop broes’ ar drawst o’r 16eg ganrif
Y ‘stop broes’ ar drawst o’r 16eg ganrif.
Llafnau-nenfforch wedi’u duo gan fwg yn pwyso yn erbyn y simnai newydd
Llafnau-nenfforch wedi’u duo gan fwg yn pwyso yn erbyn y simnai newydd.
Gwelyau yn y llofftydd uwchben y parlwr
Gwelyau yn y llofftydd uwchben y parlwr.

03/01/2022

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x