
Ymchwilio i effaith Newid Hinsawdd ar dreftadaeth arfordirol gyda’r Prosiect CHERISH ar gyfer COP26
Yn arwain at 26ain Gynhadledd y Partïon ar Newid Hinsawdd (COP26) y Cenhedloedd Unedig, mae CHERISH wedi mynychu dau ddigwyddiad pwysig:

Cafodd Cynhadledd ICOMOS y DU: Hybu Treftadaeth Ddiwylliannol fel Ysgogiad Allweddol ar gyfer Gweithredu Lleol i Fynd i’r Afael â Newid Hinsawddei chynnal ar 14 Hydref 2021, a bu Toby Driver o’r Comisiwn yn siarad yno.
Nod y gynhadledd oedd dangos sut y dylai cymunedau lleol fod wrth galon strategaethau newid hinsawdd y llywodraeth ac asiantaethau, y dylai treftadaeth ddiwylliannol fod yn rhan allweddol ohonynt, a sut y gallwn droi ymchwil a pholisïau yn weithredu ymarferol gan gymunedau.

Ar 27 Hydref, bu Sarah Davies o Brifysgol Aberystwyth yn siarad yn yr Uwchgynhadledd ar Gydnerthedd Hinsawdd a Threftadaeth (wedi’i arwain gan Historic Environment Scotland) ac roedd hefyd yn un o’r panelwyr.
Daeth y digwyddiad ag academyddion, ymarferwyr, rheoleiddwyr a chyrff elusennol ynghyd i ystyried effeithiau peryglon hinsawdd ar yr amgylchedd hanesyddol. Bu’r siaradwyr hefyd yn trafod y posibiliadau o ddefnyddio data am yr hinsawdd i ddatblygu dewisiadau ar gyfer addasu a throthwyon ar gyfer newid, gan gynnwys defnyddio data archifol i olrhain newid hinsawdd yn y gorffennol a’r hyn y gall ei ddweud wrthym am y dyfodol.
Yn ystod COP26:
Ar Ddydd Sadwrn 6 Tachwedd fe fydd CHERISH yn cyfrannu ffilm fideo ac yn darparu trosleisio a chlipiau ar gyfer y fideos a’r farddoniaeth yn nigwyddiad Diwylliant a Chymunedau Arfordirol y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig. Bydd Louise Barker o’r Comisiwn Brenhinol ar y panel. Bydd y digwyddiad yn:
“Ymchwiliad creadigol i ddiwylliant a chydnerthedd arfordirol yng nghwmni aelodau’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a phartneriaid treftadaeth allweddol. Gan ymweld yn rhithiol ag amrywiaeth o gymunedau a mentrau arfordirol, ystyrir ein profiad o’n treftadaeth arfordirol gyffyrddadwy ac anghyffwrddadwy yn y DU a thu hwnt. Clywir gwahanol leisiau’n datgan gwahanol safbwyntiau ar y peryglon, y newidiadau a’r heriau sy’n wynebu ein harfordiroedd. Gyda’n gilydd byddwn yn ystyried sut y gall ein treftadaeth fod yn rhan o adeiladu dyfodol mwy cydnerth”.
Mae croeso i chi ddod!
Gofynnir cwestiynau i’r rhai sy’n mynychu’r digwyddiad er mwyn darganfod eu cysylltiad â’r mannau lle mae’r tir yn cyfarfod â’r môr, a byddant yn cael cyfle i holi ein panel o arbenigwyr.
Dydd Sadwrn 6 Tachwedd
08:00 – 09:30 GMT
Yn bersonol ac wedi’i ffrydio ar-lein
Cofrestrwch yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/195973892187
Fideos dyddiol
Drwy gydol y gynhadledd (31 Hydref – 12 Tachwedd 2021), bydd CHERISH yn postio fideos dyddiol ar Twitter a YouTube i ddangos y gwaith sy’n cael ei wneud ar newid hinsawdd a threftadaeth arfordirol o dan y prosiectau CHERISH, CITiZAN a SCAPE. Y themâu a drafodir fydd: Newid yn y Byd Materol, Gweithredu Cymunedol, Yr Olwg Hir, a Gwreiddiau Newid Hinsawdd yr Oes Fodern.

Darganfyddwch fwy am COP26 yma: https://ukcop26.org/
Mynnwch y newyddion diweddaraf am y Prosiect CHERISH:
Twitter: @CHERISHproj
Facebook: @CHERISHProject
YouTube: https://www.youtube.com/channel/UCADLx1hyYL-3VO5xQoqzVsw/featured
Prosiect Iwerddon-Cymru chwe blynedd o hyd (2017-23) a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd yw CHERISH (Hinsawdd, Treftadaeth ac Amgylcheddau Riffiau, Ynysoedd a Phentiroedd). Mae’n dwyn ynghyd bedwar partner o’r ddwy genedl: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru; Y Rhaglen Ddarganfod: Canolfan Archaeoleg ac Arloesedd Iwerddon; Prifysgol Aberystwyth: Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear; ac Arolwg Daearegol Iwerddon.
Prif nod y Prosiect yw lledaenu gwybodaeth am addasu i newid hinsawdd, a chynyddu’r gallu i wneud hynny, er lles cymunedau arfordirol Môr Iwerddon.
01/11/2021