
Ymchwilio i Hanes eich Tŷ
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
---|
Hanes Tai
Mae cyfoeth o wybodaeth yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC) am adeiladau domestig a all helpu i ddatgelu ac egluro hanes eich tŷ ddoe a heddiw. Mae ein casgliadau’n cynnwys adroddiadau, arolygon, mapiau, lluniadau, ffotograffau ac awyrluniau yn ymwneud â phob agwedd ar yr amgylchedd adeiledig. Mae gennym lyfrgell arbenigol hefyd sy’n gartref i lawer o gyhoeddiadau sy’n ymdrin â hanes adeiladau ar hyd a lled Cymru.
Os yw eich tŷ yn hen gapel, ysgol, tafarn, melin, goleudy neu adeilad masnachol neu ddiwydiannol, mae’n ddigon posibl bod gennym ddeunydd yn ymwneud ag ef yn ein casgliadau.
Casgliadau
- Mae lluniadau, cynlluniau pensaernïol, arolygon safl e ac adluniadau o ansawdd uchel yn adnodd ardderchog ar gyfer manylion pensaernïol.
- Gall delweddau (ffotograffau a chardiau post) gynnig cyfoeth o wybodaeth gefndirol, gyd-destunol a phenodol iawn weithiau am hanes eich tŷ. Mae ein casgliadau’n cynnwys ffotograffau o du mewn a thu allan adeiladau sy’n dangos sut maent hwy wedi newid dros y degawdau.
- Defnyddiwch ein casgliad mawr o fapiau Arolwg Ordnans i ddod o hyd i adeiladau, darganfod ffi niau tir a chaeau a gweld sut y gall y rhain fod wedi newid dros amser.
- Mae’r casgliadau o Gynlluniau Ystad a Manylion Gwerthu yn cynnwys disgrifi adau hynod ddiddorol o adeiladau, a gwybodaeth am ddaliadau tir a defnydd tir cysylltiedig.
- Gallwch ddefnyddio awyrluniau i leoli eich tŷ o fewn ei gyd-destun ehangach. Mae gennym gasgliadau mawr o awyrluniau sy’n amrywio o ran dyddiad o 1918 hyd heddiw. A yw eich tŷ chi yn un o’r lluniau hyn?
▶️ Y Tŷ Hynaf yng Nghymru
Mae disgrifi adau o adeiladau unigol i’w cael yn CHCC hefyd, gan gynnwys:
- Adroddiadau arolwg
- Disgrifi adau hanesyddol
- Toriadau o bapurau newydd
- Nodiadau
- Briffi au gwylio
- Adeiladau Rhestredig Cadw
Gall ein casgliad bach ond cynhwysfawr o lyfrau llyfrgell, cylchgronau a phamffl edi arbenigol hefyd helpu i ddarparu manylion pensaernïol, hanesyddol, economaidd a chymdeithasol cyd-destunol a phenodol. A gall y rhestri sirol a gyhoeddwyd gan CBHC fod yn fan cychwyn defnyddiol. Mae gennym hefyd gyhoeddiadau mwy penodol ar ffermdai, bythynnod, capeli, melinau, ac adeiladau diwydiannol.
▶️ Crefftwaith a Chynllunio’r Hen Dŷ
Gwasanaethau
Defnyddiwch COFLEIN, ein cronfa ddata ar-lein, i chwilio am safl eoedd sydd o ddiddordeb i chi, bwrw golwg dros gasgliadau sydd wedi’u catalogio, a gweld delweddau o bob rhan o Gymru –www.coflein.gov.uk
Dewch i’n llyfrgell ac ystafell chwilio i weld llyfrau, cylchgronau a deunydd archifol gwreiddiol o CHCC. Rydym ar agor: Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Iau a Dydd Gwener 09:30 – 16:00, Dydd Mercher 10:30 – 16:30.
Fe’ch cynghorir i wneud apwyntiad.
▶️ Parhâd Traddodiadau Adeiladu Gwerinol
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n staff cyfeillgar a phroffesiynol yn:
Llyfrgell a Gwasanaeth Ymholiadau CHCC
CBHC
Ffordd Penglais
Aberystwyth SY23 3BU
Ffôn: +44 (0)1970 621200
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Gwefan: www.cbhc.gov.uk
Coflein: www.coflein.gov.uk
▶️ Houses of the Welsh Countryside
Tanysgrifiwch i borthiant newyddion y Comisiwn Brenhinol
Rydym ghefyd ar gael ar:
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
---|
08/26/2015