Ymdeimlad o Wreiddiau Rhaglan – Gorffennol Digidol 2013

Bydd Dr Cheryl Morgan o Archifau Lleol Rhaglan yn rhoi sgwrs yng Nghynhadledd Gorffennol Digidol 2013 am brosiectau digidol diweddaraf Grŵp Hanes Lleol Rhaglan a’r Cylch. Mae’r prosiectau hyn yn cynnwys:

  • Prosiect Adrodd Straeon Digidol – archif ddigidol o gofnodion lleol a chyfryngau digidol yn http://www.raglan-history.org.uk/: gweithio gyda grwpiau ieuenctid i ddigido a chatalogio 800 a rhagor o hen ffotograffau, mapiau, ewyllysiau a dogfennau eraill, a chreu straeon digidol.
  • Prosiect Ffyrdd Lleol Rhaglan – yn cysylltu Plant Ysgol Gynradd Rhaglan â phobl a fu’n byw yn yr ardal ers amser maith. Cafodd CD ei gynhyrchu, yn cynnwys hen ffotograffau a chyfraniadau fideo gan drigolion oedrannus, i ddangos y newidiadau ym Mhentref Rhaglan yn ystod y ganrif ddiwethaf. Ers dwy flynedd bellach, mae Ditectifs Hanes Rhaglan, clwb ar ôl ysgol, wedi bod yn dysgu hanes drwy astudio a chofnodi’r beddau ym Mynwent Eglwys Sant Cadog.
  • Gwefan Wiki Domesday Pentref Rhaglan, ystorfa ar gyfer cofnodion hanesyddol ac atgofion lleol. Ers ei sefydlu, mae 30,000 o bobl o bedwar ban byd wedi ymweld â’r wefan.
  • Y prosiect Tirnodau Treftadaeth presennol sy’n seiliedig ar godau QR

01/21/2013

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x