
Ymunwch â ni wythnos nesaf am ddwy daith Gŵyl Archaeoleg i archwilio Pendinas!
Ar ddydd Mercher y 19 a dydd Iau’r 20 o Orffennaf 2023, bydd Beca Davies, ein Harcheolegydd Cymunedol, yn arwain dwy daith rad ac am ddim i fwynhau rhyfeddodau naturiol a hanesyddol Bryngaer Pendinas ym Mhenparcau, Aberystwyth.
Bydd y daith gyntaf ar ddydd Mercher y 19 o Orffennaf yn cychwyn am 2:30yh, ac fe fydd yn daith hygyrch i bawb ac yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn i ymlwybro drwy ardal isaf y fryngaer a thrwy goedlan yr ‘hen domen’. Bydd Chloe Griffiths, ecolegydd lleol yn ymuno a Beca, a bydd y ddwy yn sôn am y nifer o fathau o fywyd gwyllt sydd wedi gwneud yr heneb hon yn gartref iddynt, a thrafod rhai o’r newidiadau hynafol a mwy diweddaf y mae’r fryngaer wedi profi.

Bydd yr ail daith yn cychwyn am 6:30yn y diwrnod canlynol, ac fe fyddwn yn ymlwybro ar hyd llwybr canol Pendinas i archwilio rhyfeddodau naturiol a rhai a waned gan ddyn ar yr heneb hon. Bydd Richard Suggett, cyn uwch-ymchwilydd adeiladau hanesyddol y Comisiwn, yn ymuno a Beca ar y daith. Fe fydd Richard yn casglu cliwiau am gynllun a hanes ffermdy adfeiliedig Pant-yr-Allt, man dyfrio lemonêd i genedlaethau o ymwelwyr Bryngaer Pendinas, gan gynnwys yr Athro Darryl Forde a’i gloddwyr yn yr 1930au!
Am fwy o wybodaeth ac am sut i archebu lle, dilynwch y linciau isod:
- 19/07/2023: https://www.eventbrite.co.uk/e/672096838737
- 20/07/2023: https://www.eventbrite.co.uk/e/672200930077


Beca Davies, Swyddog Allgymorth Cymunedol Prosiect Pendinas
12/07/2023