
Ymunwch â’r CHYPs! Panel Ieuenctid Haneswyr Ceredigion i’n helpu ni i redeg ‘Ceredigion Gyfyngedig?’
Ar hyn o bryd, mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn cynnal prosiect ieuenctid yng Ngogledd Ceredigion, ‘Treftadaeth Ddisylw: Ceredigion Gyfyngedig?’.
Ydych chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, rhwng 14 a 25 mlwydd oed? Yn hoffi hanes? Yn caru daearyddiaeth? Neu’n mwynhau bod yn greadigol? Gyda rhaglen gyffrous a chyfle i ddatblygu sgiliau eang, gan gynnwys ffotograffiaeth, ymchwilio i dirwedd ac adeiladau’r sir, creu sain a ffilm, cyllidebu, actio, creu celf, mapio a llawer mwy…..chi fydd yn dewis a chynllunio!
Mae uchafbwyntiau blwyddyn gyntaf lwyddiannus y panel ieuenctid yn cynnwys: arddangosfa yn Sain Ffagan yng Nghaerdydd; ennill gwobr clod uchel yn ‘Gwobrau Angel Treftadaeth Cymru’; cofnodi ffermdy unigryw a safle mwyngloddio, a chynrychioli’r prosiect yn y Sioe Frenhinol, Llanelwedd.
Felly, ymunwch â’r panel i gael eich ysbrydoli ac i ofalu am y dreftadaeth sy’n bwysig i chi. Rydyn ni’n cwrdd bob Nos Iau 16:30 – 19:00.
Dydd Iau y 29ain o Dachwedd
Dewch draw i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yn adeilad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ar Ddydd Iau y 29ain o Dachwedd am 16:00. Gallwch gwrdd ag aelodau’r panel a chael eich ysbrydoli. Bwyd AM DDIM!
Rydyn ni’n gobeithio eich gweld chi ar y 29ain, ond os na allwch chi ddod ac yn dal eisiau ymuno â’r panel, rhowch wybod i mi.
Am fanylion pellach cysylltwch ag:
Anna Evans:
anna.evans@rcahmw.gov.uk
01970 621200 / 0779270082
Gwefan: http://unlovedheritage.wales/
Rydym ghefyd ar gael ar: Facebook
Treftadaeth Ddisylw: Ceredigion Gyfyngedig? Disgrifiad o’r prosiect
Prosiect tair blynedd wedi’i arwain gan bobl ifanc a’i redeg gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yw ‘Ceredigion Gyfyngedig?’. Y nod yw defnyddio archaeoleg a gweithgareddau creadigol i alluogi pobl ifanc a’u cymunedau i gofnodi, dehongli, rheoli a diogelu safleoedd treftadaeth o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif yng Ngogledd Ceredigion.
Mae prosiect Ceredigion Gyfyngedig? yn rhan o ‘Dreftadaeth Ddisylw?’, sef rhaglen ieuenctid sy’n digwydd ledled Cymru ac yn cael ei arwain gan CADW a’i ariannu gan y Loteri Treftadaeth.
Tanysgrifiwch i borthiant newyddion y Comisiwn Brenhinol
11/23/2018