Ymweld â ni
Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil CBHC
Oriau Agor:
» Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Iau, Dydd Gwener: 9.30 – 16.00
» Dydd Mercher: 10.30 – 16.30
Fe’ch cynghorir i drefnu’ch ymweliad ymlaen llaw er mwyn i ni allu cael eich deunydd yn barod ac arbed amser i chi.
Cysylltwch â Ni
Sut i Ddod o Hyd i Ni
- Rydym wedi ein lleoli yn adeilad Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Gweler y Map Lleoliad am gyfarwyddiadau teithio
- Dilynwch yr arwyddion i Lyfrgell ac Ystafell Ymchwil CBHC yn y Llyfrgell Genedlaethol. Rydym ar y llawr cyntaf (lefel 0) ychydig cyn cyrraedd Ystafell Ddarllen y Gogledd
- Rhaid rhoi cotiau a bagiau yn y loceri a ddarperir. Mae angen darn £1 i agor locer, a fydd yn cael ei ad-dalu pan ewch i nôl eich eiddo
Gofynion y Llyfrgell a’r Ystafell Ymchwil
- Ar ôl cyrraedd, gofynnir i chi ddangos dau brawf o bwy ydych (sy’n cynnwys eich enw a’ch cyfeiriad) neu Docyn Darllenydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. (D.S. nid oes rhaid i chi fod yn berchen ar Docyn LlGC i ddefnyddio Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil CBHC)
- Gofynnwn i chi lenwi a llofnodi Ffurflen Ymwelydd sy’n cadarnhau eich bod yn derbyn Rheoliadau Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil CBHC
- Byddwch cystal â nodi na chaniateir mynd â bwyd neu ddiod o unrhyw fath i’r Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil
- Dim ond pensiliau a all gael eu defnyddio yn y Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil
- Byddwch cystal â sicrhau bod ffonau symudol wedi’u diffodd neu wedi’u gosod ar y modd ‘distaw’
Gwasanaethau’r Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil
Yn ogystal â gallu cyrchu deunydd gwreiddiol o’n Harchif, byddwch yn gallu pori yn ein Llyfrgell gyfeiriol ac yn gallu cyrchu:
» Coflein – ein cronfa ddata a chatalog ar-lein o safleoedd
» Cymru Hanesyddol – y porth wedi’i gyrchu drwy fapiau lle gellir cael gwybodaeth am amgylchedd hanesyddol Cymru
» GIS – ein system chwilio ar gyfer mapiau ac awyrluniau
» Catalog Llyfrgell y Comisiwn Brenhinol
- Gallwch archebu llungopïau a sganiau o ddeunyddiau, yn amodol ar gyfyngiadau hawlfraint. Gweler ein rhestr brisiau a ffioedd trwydded am fanylion
- Cewch dynnu lluniau yn yr Ystafell Ymchwil yn amodol ar delerau ac amodau. Gweler ein rhestr brisiau am fanylion
- Gellir trefnu ymweliadau gan grwpiau drwy gysylltu â ni
- Mae holl gyhoeddiadau CBHC sydd mewn print ar gael i’w prynu
Staff
Mae staff cyfeillgar a phroffesiynol ein Llyfrgell a Gwasanaeth Ymholiadau bob amser ar gael yn yr Ystafell Ymchwil ac yn barod iawn i’ch helpu. Mae’n bosibl y bydd staff arbenigol eraill CBHC ar gael drwy wneud cais, gan ddibynnu ar eu hymrwymiadau.