
Ymweliad gan Elin Jones AC a Delyth Jewell AC
Daeth yr Aelodau Cynulliad Elin Jones (Llywydd) a Delyth Jewell atom yr wythnos hon i ddysgu am ein gwaith. Rhoddwyd cyflwyniad cyflym i’r sefydliad iddynt yn gyntaf ac yna dangoswyd y gwaith cofnodi a’r darganfyddiadau cyffrous a oedd yn cael eu gwneud drwy’r prosiectau CHERISH, Llongau-U a Threftadaeth Ddisylw. Wedyn gwelsant amrywiaeth o ffotograffau, mapiau a deunydd arall o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

12/04/2019