
Yn uchel uwchben treftadaeth arfordirol Iwerddon
Mae rhagchwilio o’r awyr mewn awyren fach yn parhau’n un o’r ffyrdd gorau o wneud archwiliad cyflym o gyflwr safleoedd treftadaeth arfordirol ar hyd cannoedd o filltiroedd o arfordir anghysbell. Dyma un o’r dulliau a ddefnyddir i wneud arolygon cyflwr fel rhan o Brosiect CHERISH Iwerddon-Cymru a ariennir gan yr UE.
Mae CHERISH, prosiect partneriaeth gyda Phrifysgol Aberystwyth, Arolwg Daearegol Iwerddon a’r Rhaglen Ddarganfod a arweinir gan y Comisiwn Brenhinol, wedi’i seilio ar weithio ar y cyd a rhannu gwybodaeth er mwyn meithrin yr arferion gorau yn y ddwy wlad. I’r perwyl hwn, ar ddiwedd Mawrth, ymunodd Toby Driver, archaeolegydd o’r awyr y Comisiwn Brenhinol, â Robert Shaw, Uwch Geoarolygwr y Rhaglen Ddarganfod, ar gyfer dau ddiwrnod o dynnu lluniau o’r awyr dros safleoedd arfordirol blaenoriaethol.
Bydd tîm arolygu CHERISH yn defnyddio Cerbydau Di-beilot neu ddronau (UAVs) i wneud arolygon 3D (ffotogrametrig) manwl o safleoedd archaeolegol arfordirol ac mae’r canlyniadau’n syfrdanol. Sut bynnag, rhaid defnyddio dronau’n ddiogel a chyfreithlon: rhaid eu cadw bob amser o fewn Llinell Weld Weledol ac o dan 400 troedfedd, ac mae hyn yn gallu gosod cyfyngiadau ar arolwg eang ei gwmpas.
Drwy logi awyren gellir teithio’n gyflymach, yn bellach ac yn uwch na drôn, gan arolygu cannoedd o filltiroedd mewn ychydig o oriau, ond mae’r lluniau a dynnir yn llai manwl na lluniau drôn lefel-is. Mae’n rhan o ‘Ddull Pecyn Offer’ y Prosiect CHERISH lle mae gan bob dull arolygu ei le, gan ddibynnu ar beth rydych chi am ei gofnodi a pham.
Un o nodau allweddol yr hediadau diweddar oedd tynnu awyrluniau newydd o safleoedd astudio CHERISH ym Mae Dulyn, gan gynnwys Ynys Lambay ac Ireland’s Eye sy’n gorwedd o dan y ddynesfa derfynol at Faes Awyr Dulyn. Gan fod awyrennau’n glanio ac yn esgyn bob 8 munud, fe reolir y gofod awyr yn llym iawn ac felly mae’n anodd defnyddio dronau.
Roeddem yn ffodus i gael tywydd da ar 20 Mawrth pan gyraeddasom y Ganolfan Hedfan Genedlaethol ym Maes Awyr Weston ar gyrion Dulyn, y mae ei pheilotiaid profiadol wedi arfer gweithio â Rheolaeth Traffig Awyr Dulyn. Fe wnaeth Dermot O’Brien, un o’r peilotiaid, rai galwadau cyn esgyn, llwythwyd siacedi achub rhag ofn argyfwng, ac yna i ffwrdd â ni dros ddinas Dulyn tuag at y môr i weld Ynys Dalkey – un o safleoedd astudio CHERISH – a llongau rhaglen INFOMAR Arolwg Daearegol Iwerddon wedi’u hangori yn harbwr Dun Laoghaire islaw.
Wrth i’r peilot drafod â’r Maes Awyr i gael caniatâd, hedfanasom i’r gogledd i arolygu ein holl bentiroedd ac ynysoedd blaenoriaethol ym Mae Dulyn, gan gadw o dan 500 troedfedd a bron ar lefel y llygad â goleudai Baily, Howth, a Rockabill! Roedd y tywydd yn heulog a llonydd ac roeddem yn gallu tynnu cannoedd o awyrluniau newydd o ynysoedd a phentiroedd allweddol – Ynys Lambay, Ireland’s Eye, Drumanagh, Skerries a Bremore – at bwrpas monitro man cychwyn.
Yn ystod y ddau ddiwrnod, fe wnaethom fwy o arolygon o’r awyr ar hyd arfordir dwyreiniol Dulyn o Bray i Arklow a thu hwnt, gan hedfan dros y safleoedd astudio CHERISH yn Glascarrig a Kilmichael Point. Roedd arolwg drôn lefel-isel o’r ail safle newydd gael ei wneud gan Arolwg Daearegol Iwerddon.
Mae’r awyrluniau isod yn dangos mor anhygoel o amrywiol yw tirweddau arfordirol dwyrain Iwerddon.
Toby Driver, CBHC a Robert Shaw, Y Rhaglen Ddarganfod, Iwerddon.










04/09/2019