CBHC / RCAHMW > Newyddion > Yr 20fed Ganrif – Rhoddodd Llyfrgelloedd Rym i Ni!

Yr 20fed Ganrif – Rhoddodd Llyfrgelloedd Rym i Ni!

O ganlyniad i haelioni eithriadol Andrew Carnegie, roedd nifer o drefi Cymru erbyn dechrau’r 20fed ganrif yn berchen ar adeiladau trawiadol lle gellid benthyca llyfrau a darllen papurau newydd yn rhad ac am ddim. Fodd bynnag, roedd cynghorau tref yn aml yn pryderu am y gost i’r trethdalwr a byddai ardaloedd gwledig fel rheol yn colli allan. Ym 1919, arweiniodd penderfyniad llywodraeth Lloyd George i greu gwlad addas i’n dewrion yn sgil trawma’r Rhyfel Byd Cyntaf at Ddeddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus a roddodd gyfrifoldeb dros lyfrgelloedd cyhoeddus yn nwylo’r cynghorau sir. Am y tro cyntaf, ariannwyd gwasanaethau llyfrgell ledled Cymru a rhoddwyd cynnig ar syniadau newydd megis defnyddio llyfrgelloedd teithiol ac addasu neuaddau pentref mewn cymunedau gwledig.

Neuadd Gyhoeddus, Llyfrgell a Sefydliad Llanfair Caereinion a agorwyd ym 1913

Dylanwadodd y syniad o ‘Gymru’ fel cenedl gyda’i sefydliadau ei hun ar y ffordd y bu pobl yn trafod dyfodol llyfrgelloedd. Ym 1930, anogwyd y cynghorau sir gan Syr William Llewelyn Davies, y Llyfrgellydd Cenedlaethol ar y pryd, i gydweithio ar greu catalog cenedlaethol o lyfrau er mwyn gallu eu rhoi ar fenthyg ar draws Cymru. Ym 1931, sefydlwyd cangen Gymreig y Gymdeithas Llyfrgelloedd. Yn ogystal, rhoddodd diwedd yr Ail Ryfel Byd ysgogiad newydd i ddarparu cyfleoedd i bobl elwa ar ddosbarthiadau nos a digwyddiadau diwylliannol mewn llyfrgelloedd.

Y cyfnod o ganol y 1950au hyd at y 1970au oedd oes aur llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru. Agorwyd llyfrgelloedd sir a changen ar hyd a lled Cymru, ac roedd llyfrau Cymraeg ar gael mewn llawer ohonynt. Cafodd Llyfrgell Sir Benfro yn Hwlffordd ei hagor ym 1969 – mae cerflun nodedig gan David Tinker ar du allan yr adeilad yn cynrychioli llyfr agored.

Roedd Coleg Llyfrgellwyr Cymru, a sefydlwyd yn Aberystwyth ym 1964, yn ddylanwadol iawn gan iddi hyfforddi llyfrgellwyr proffesiynol drwy gyfrwng cyrsiau gradd ac ôl-radd. Codwyd canghennau llyfrgell pwrpasol yn lle hen adeiladau Fictoraidd. Roedd Llyfrgell Thomas Parry a agorwyd ym 1972 yn llyfrgell academaidd arbennig o’r radd flaenaf.

Ers 2000, rhoddwyd pwrpas newydd i lyfrgelloedd cyhoeddus fel mannau digidol sy’n darparu mynediad a hyfforddiant am ddim i bobl nad oes ganddynt eu cyfrifiaduron eu hunain. Roedd Cymru yn arloeswr ym maes creu gwasanaethau llyfrgell i bobl ifanc. Yn yr 21ain ganrif, mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn parhau i fod yn fannau cymunedol diogel sy’n croesawu pawb.

Llyfrgell Aberystwyth ar ei newydd wedd 2012

Yn yr 20fed ganrif adeiladwyd llyfrgelloedd newydd hefyd mewn prifysgolion a cholegau. Ym 1927, sefydlwyd Coleg Harlech i ddarparu ail gyfle i bobl a oedd wedi colli allan ar addysg ysgol neu a oedd yn awyddus i newid cyfeiriad. Lleolwyd y coleg ym Mhlas Wernfawr, tŷ Celf a Chrefft a adeiladwyd ym 1907 i George Davison, miliwnydd ecsentrig a oedd yn gefnogol i lawer o achosion sosialaidd. Ychwanegwyd y llyfrgell, a gynlluniwyd gan bensaer lleol, Griffith Morris, ym 1939, a bu cenedlaethau o fyfyrwyr yn elwa ar y profiad o astudio yno nes cau’r coleg ym 2019.

Yn y 1960au a’r 1970au, daeth y llyfrgell yn ganolbwynt campysau prifysgolion, er enghraifft, Llyfrgell Hugh Owen ym Mhrifysgol Aberystwyth a agorwyd ym 1973 gan gymryd lle’r llyfrgell Fictoraidd yn yr Hen Goleg ar y promenâd. Yn y flwyddyn honno hefyd, agorwyd Llyfrgell Glowyr De Cymru ym Mhrifysgol Abertawe i ddiogelu casgliadau Sefydliadau’r Glowyr ar ôl iddynt gau. Mae’n parhau i gefnogi addysg i oedolion fel y gwnaeth Sefydliadau’r Gweithwyr y mae llawer ohonynt bellach wedi’u colli. Roedd Ysgol Pensaernïaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn gyfrifol am gynllunio sawl adeilad llyfrgell, gan gynnwys llyfrgell Coleg y Drindod yng Nghaerfyrddin.

Mae llyfrgelloedd Cymru, o’r Llyfrgell Genedlaethol i’r llyfrgell gangen fach a’r llyfrgell academaidd ddigidol, yn parhau i ymateb i’r heriau o sicrhau bod pawb yn gallu cyrchu gwybodaeth. Ym 1889, pan godwyd Llyfrgell Pillgwenlly yng Nghasnewydd, cerfiwyd y geiriau ‘Knowledge is Power’ uwchben y drysau; cafwyd adlais o hyn gan y Manic Street Preachers yn eu cân ‘A Design for Life’ ym 1996, gyda’i llinell agoriadol ‘rhoddodd llyfrgelloedd rym i ni’!

Dr Ywain Tomos, Cynorthwyydd Ymholiadau a Llyfrgell

06/10/2021

Subscribe
Notify of
guest

Security code *Time limit exceeded. Please complete the captcha once again.

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x