
YR OLYGFA ODDI UCHOD: Can mlynedd o awyrluniau o Gymru
Thema Gŵyl Archaeoleg Cyngor Archaeoleg Prydain eleni yw ‘Darganfod Mannau Lleol’.
Ar Ddydd Iau 22 Gorffennaf am 5pm, fe fydd Medwyn Parry, arbenigwr ar ein harchif awyrluniau, yn dangos yr amrywiaeth anhygoel o awyrluniau manwl o Gymru sydd ym meddiant y Comisiwn Brenhinol ac yn egluro sut y gallwch eu defnyddio i ddysgu am eich ardal leol.
Yn y blog hwn, mae Medwyn yn rhoi cyflwyniad byr i’n casgliadau o awyrluniau ac i’w sgwrs: Yr Olygfa oddi Uchod: Can mlynedd o awyrluniau o Gymru.

Sut y dechreuodd y cyfan
Cafodd yr awyrluniau cyntaf eu tynnu yn y 1850au, ryw hanner can mlynedd cyn dyfodiad awyrennau. Defnyddid sawl modd dyfeisgar i gael y camera i’r awyr ac i’r safle priodol ar gyfer tynnu lluniau, gan gynnwys barcutiaid, balwnau a hyd yn oed adar.
Byddin Ffrainc oedd yr arloeswyr ym maes datblygu a defnyddio ffotograffiaeth o’r awyr. Pan fyddent yn dod wyneb yn wyneb â’r gelyn, byddai nifer bach o filwyr yn cael eu hanfon i safle da ar fryn lle gallent adrodd yn ôl ar symudiadau milwrol neu roi gwybod a oedd sieliau magnelau’n disgyn yn rhy agos neu’n rhy bell. Byddai canlyniad y brwydro yn dibynnu’n aml ar safon yr adroddiadau.

Ffotograffiaeth o’r awyr adeg rhyfel ac ar ôl y Rhyfeloedd
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd, gwelwyd datblygiadau cyflym o ran cyfarpar a thechnegau ffotograffig. Sefydlodd y Llu Awyr sgwadronau arbennig i dynnu lluniau o’r awyr ac addaswyd awyrennau i gyflawni’r gwaith.
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd fe roddwyd y dasg o dynnu lluniau o Brydain gyfan iddynt gan y Weinyddiaeth Cynllunio Gwlad a Thref er mwyn hwyluso’r ymgyrch ailadeiladu.
Cafodd y cyfrifoldeb hwn ei drosglwyddo yn y man i’r Arolwg Ordnans – sy’n parhau hyd heddiw i wneud arolygon o’r awyr o dirwedd gwledydd Prydain.


Ein harchif o awyrluniau
Mae’r negatifau a phrintiau ffotograffig o Gymru a gynhyrchwyd gan y Llu Awyr a’r Arolwg Ordnans – yn ogystal ag amrywiaeth eang o awyrluniau o ffynonellau eraill – yn cael eu cadw yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru ac maen nhw’n hygyrch i’r cyhoedd.
Mae Casgliad Aerofilms, archif fasnachol enfawr o awyrluniau’n dyddio o 1919 hyd heddiw, yn adnodd amhrisiadwy ar gyfer ymchwil deongliadol gan academyddion a’r cyhoedd.
Yn fy sgwrs ar 22 Gorffennaf byddaf yn edrych ar enghreifftiau o brif elfennau’r casgliadau ac yn esbonio’n fanwl y technegau a ddefnyddid i dynnu’r lluniau.
Medwyn Parry, Swyddog Archif a Llyfrgell
Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer sgwrs ar-lein am ddim Medwyn: https://ti.to/digital-past/yr-olygfa-oddi-uchod-can-mlynedd-o-dynnu-lluniau-o-r-awyr-yng-nghymru
Llun uchaf: Awyrlun o Ddociau Caerdydd ym 1924, o’n Casgliad Aerofilms
13/07/2021