Ysbrydion o’r gorffennol: Hynodion hynafiaethol ac ysbryd ‘Rhufeinig’ yn Sir Benfro yn y ddeunawfed ganrif

Yn aml, mae henebion Cymru wedi’u cysylltu â chwedlau am ysbrydion a phwerau goruwchnaturiol: o ffynhonnau melltith a meini hirion hynafol i gestyll a thafarnau llawn ysbrydion. Mae’r hanesion hyn yn fwy na hynodion rhyfedd; maent yn adlewyrchu treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog a bywiog Cymru a’i chymunedau. Mae’r cysylltiadau goruwchnaturiol hyn â safleoedd hynafol a hanesyddol yn golygu bod hynafiaethwyr ac archaeolegwyr yn draddodiadol wedi dod ar draws llawer o’r credoau a’r chwedlau hyn wrth gyflawni eu gwaith.

Mae gwaith y Comisiwn Brenhinol wedi’i nodweddu o’r cychwyn cyntaf gan ymwybyddiaeth o’r credoau hyn a’u pwysigrwydd. Ychydig flynyddoedd cyn iddo ddod yn Gadeirydd cyntaf y Comisiwn, cyhoeddodd John Rhŷs ei gyfrol enfawr Celtic Folklore: Welsh and Manx (1901). At hynny, cyfeiriwyd fwy nag unwaith at y syniad o ‘ofergoelion’ sy’n gysylltiedig â gwarchod safleoedd hynafol, a chromlechi yn benodol, yn y dystiolaeth a gyflwynwyd i’r Comisiwn gan ysgolheigion blaenllaw yn Minutes of Evidence yn 1909. Mynegwyd tristwch, hyd yn oed, bod y credoau hyn a’r modd yr oeddent yn diogelu henebion ar drai!

Ymhell dros ganrif cyn i’r Comisiwn Brenhinol ddechrau teithio ar hyd a lled Cymru yn cofnodi henebion, bu’r Parchedig Edmund Jones – pregethwr lled-deithiol gyda’r Annibynwyr, a oedd yn dod o Bont-y-pŵl – yn teithio trwy Gymru yn pregethu ac yn cofnodi hanesion am wrachod, ysbrydion, tylwyth teg a drychiolaethau eraill, yr oedd yn credu’n gryf ym mhob un ohonynt. Yn 1780, cyhoeddodd Jones lawer o’r hanesion hyn yn ei gyfrol Relation of Apparitions of Spirits in the Principality of Wales, sef un o’r ffynonellau hanesyddol mwyaf cyfoethog o safbwynt llên gwerin Cymru am y goruwchnaturiol.

Mae hanesion Jones am ddrychiolaethau’n adlewyrchu’r cymunedau a’r tirweddau y teithiai drwyddynt. Mae hefyd yn enwi llawer o’r bobl a welodd y drychiolaethau hyn yn eu bywyd pob dydd, wrth deithio neu weithio neu yn eu cartrefi eu hunain. Caiff llawer o’r ysbrydion yn y testun eu hadnabod hefyd wrth eu perthynas â’r bobl yr oeddent yn ymddangos ger eu bron neu’r mannau yr oeddent yn ymddangos ynddynt. Dyma un o’r pethau sy’n golygu bod modd gwahaniaethu rhwng ysbrydion a drychiolaethau o fath arall megis tylwyth teg neu ellyllon.

Mae un hanes y daethpwyd o hyd iddo mewn deunydd heb ei gyhoeddi yn Llyfrgell Caerdydd MS 2.249 yn cysylltu Jones yn uniongyrchol ag ymchwiliad hynafiaethol — ac iddo ganlyniad arswydus! Tra oedd yn teithio yn Sir Benfro, clywodd Jones am garreg arysgrifedig gynnar â llythrennau Lladin arni, a thybiodd mai carreg o’r oes Rufeinig ydoedd (mae’n debyg ei bod yn dyddio mewn gwirionedd o ddiwedd y bumed ganrif neu ddechrau’r chweched ganrif). Pan aeth i ymweld â’r fferm lle’r oedd y garreg, gwelodd iddi gael ei symud i ben twlc mochyn, a dyma fe’n cripian i mewn i’r twlc gyda channwyll yn ei law er mwyn duo’r llythrennau i’w gwneud yn haws eu darllen. Ar ôl gweld ei chwilfrydedd ynghylch y garreg dywedodd y ffermwr, Mr Perkins, a oedd yn ôl pob sôn yn ddyn cyfeillgar a hoffus, y dylid symud y garreg er mwyn i’r sawl a oedd â diddordeb ynddi allu ei darllen yn haws. Fodd bynnag, roedd Jones yn gwrthwynebu’r awgrym hwn, yn enwedig gan ei fod yn credu mai carreg fedd Rufeinig ydoedd. Er gwaethaf ei brotestiadau, aethpwyd ati i symud y garreg. Pan oedd Jones yn ceisio cysgu’r noson honno yn nhŷ David Harris gerllaw, fedrai e’ ddim. Roedd y dillad gwely’n symud heb i ddim eu cyffwrdd, ac roedd presenoldeb yr ysbryd a ddigiwyd yn ddigon i achosi’r hyn a ddisgrifiodd Jones fel ‘such a terror as caused me to sweat and my flesh to tremble all night until the cock crowed. I believe it was because I meddled with the dead man’s grave stone, and likely it was his spirit that troubled me.’

Drwy gydol ei oes hir cafodd Jones ei blagio gan ysbrydion, tylwyth teg ac ellyllon a gan y diafol ei hun; roedd yn ymddangos bod ganddo ddawn i’w denu! Ac eto, mae ei hanes yn dangos chwilfrydedd am y gorffennol yn ogystal ag ymwybyddiaeth o’r sawl a adawodd henebion Cymru ar eu hôl. Yn y pen draw, dealltwriaeth Jones o’r hanesion y mae’r henebion hyn yn eu hadrodd a barodd iddo adnabod ei blagiwr arswydus ar y noson dyngedfennol honno yn Sir Benfro!

Adam N. Coward, Swyddog Llyfrgell ac Ymholiadau

I gael rhagor o fanylion am gerrig arysgrifedig o’r cyfnod Cristnogol cynnar yng Nghymru, gweler A Corpus of Early Medieval Inscribed Stones and Stone Sculpture in Wales (tair cyfrol) a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru mewn cydweithrediad â’r Comisiwn Brenhinol ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru (2007—2013).

10/31/2022

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x