Ysgoloriaeth MSc drwy ymchwil wedi’i Hariannu’n Llawn gan KESS II: Dyddio adeiladau hanesyddol ledled Cymru drwy dechneg isotopau sefydlog

Mae’r Comisiwn Brenhinol yn cychwyn ar bartneriaeth gyffrous gyda Phrifysgol Abertawe i roi prawf ar dechneg newydd ar gyfer dyddio pren hanesyddol: dyddio isotopig drwy gymorth dendrocronoleg. Mae hyn yn rhan o raglen dyddio cylchoedd coed genedlaethol y Comisiwn Brenhinol.

Dendrocronoleg (dyddio cylchoedd coed) yw’r prif ddull a ddefnyddir i bennu oedran adeiladau hanesyddol ac arteffactau pren yn y DU. Fodd bynnag, mewn sawl rhan o Gymru, mae dendrocronoleg gonfensiynol yn aml yn methu darparu dyddiad cadarn oherwydd presenoldeb dilyniannau o gylchoedd â lled unffurf neu oherwydd bod coed byrhoedlog neu sy’n tyfu’n gyflym wedi cael eu defnyddio wrth adeiladu. O ganlyniad, nid oes modd pennu oedran calendr manwl gywir i adeileddau o bwys hanesyddol neu ddiwylliannol mawr.

Nod y prosiect hwn fydd asesu addasrwydd techneg newydd i bennu dyddiad manwl gywir a ddatblygwyd gan y tîm yn Abertawe er mwyn darparu dyddiadau calendr ar gyfer tai, coed byw a phren o ffynonellau ledled Cymru. Bydd hyn yn helpu i bennu terfynau daearyddol ac ymarferol y dull isotop ocsigen sefydlog at ddiben dyddio pren hanesyddol.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 4pm ar 26 Hydref 2018.

Gellir cael mwy o fanylion yn:
Daearyddiaeth Ffisegol: Ysgoloriaeth MSc drwy ymchwil wedi’i Hariannu’n Llawn gan KESS II: Dyddio adeiladau hanesyddol ledled Cymru drwy dechneg isotopau sefydlog

10/11/2018

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x